ページの画像
PDF
ePub

Ad-argraffiad o'r Traethodydd, Gorffenaf, 1894.

Y GYMRAEG,

DDOE A HEDDYW.

GAN W. PRICHARD WILLIAMS.

Y MAE cymaint wedi ei ysgrifennu o dro i dro ar yr Iaith Gymraeg fel y mae'n gryn ryfyg i ddyn feddwl y gwaeth gan neb beth a ddywedir ymhellach ar y pwnc. Ond y mae cymaint o son am ddeffröad cenedlaethol, a chymaint o baratoi ar gyfer dysgu iaith ein gwlad yn yr ysgolion dyddiol, fel mai prin y mae eisieu esgus am dreulio tipyn o amser i chwilio i'w hanes. Ac nid di-fudd ydyw holi am dŵf yr iaith sydd yn parhau, er a ddywedir i'r gwrthwyneb, yn brif gyfrwng ein gwerin i drafod helynt y byd ac i gyfnewid meddyliau a'u gilydd. Y mae ein cenedl yn hen, a hanes ei bore heb ei ysgrifennu, ac yn anghofiedig; ond y mae dyfal chwilio i ddirgelwch ei geiriau wedi rhoi llawer o oleuni i ni ar grêd a buchedd ein hynafiaid. Buddiol yw i ninnau " edrych ar y graig y'n naddwyd, a cheudod y ffos y'n cloddiwyd o honynt." Llafur difyr hefyd ydyw ymaflyd mewn gair, a chwilio o ba le y daeth, holi helynt ei daith, a'i orfodi i ddatguddio ei gyfrinach. Y mae yr hyn a ddywedodd Coleridge am y Saesneg yr un mor wir am y Gymraeg:"In a language like ours, so many words of which are derived from other languages, there are few modes of instruction more useful or more amusing than that of accustoming young people to seek for the etymology or the primary meaning of the words they use. There are cases, in which more knowledge of more value may be conveyed by the history of a word, than by the history of a campaign." (Aids to Reflection, 1861, p. 6, note). Ond y mae goruchwyliaeth y "gwreiddionos " —ab, eb, ib, ob, ub, wb, yb, yn para hyd heddyw, ac y mae llawer eto yn credu nad oes hanes i air ar wahân i'r "cyntefigion" yna. Y mae hynafiaeth y Gymraeg yn ymffrost yr Orsedd, a rhydd achlysur i ambell un o'r urdd honni fod ieithoedd ereill wedi cymeryd benthyg ei geiriau. Fe ymddengys fod ein ceraint ar y Cyfandir yn dioddef oddiwrth yr un gwendid. Haera llenorion Llydaw fod iaith Ffrainc, a rhai o ieithoedd ereill Ewrob, wedi eu maethu gan y Lydawaeg. Methodd gwawd

Voltaire a lladd yr hyn a alwodd yn "Celtomania," canys ffynna'r syniadau yna yn eu plith hyd ein dyddiau ni, fel y gwelir yng ngweithrediadau y Gynhadledd fawr Geltaidd a gynhaliwyd yn St. Brieuc, yn 1867. Gan fod y Gymraeg yn un o ganghennau y cyff y deillia agos yṛ oll o ieithoedd Ewrob o hono, fe gydnabyddir ei hynafiaeth; ac am ei bod yn hen, fe fyn y beirdd ei chadw yn bur. Fel y mae'n hysbys, dyma asgwrn y gynnen rhwng yr hyn a elwir yn "Gymraeg yr Orsedd' a "Chymraeg Rhydychen." Dadleua'r beirdd dros burdeb geiriau, a gwrthwynebant roddi lle yn yr iaith i air yr amheuir ei fod yn estron. Gwell ganddynt eiriau gwneud. "Awrlais" yn lle cloc, "cerbydres" yn lle trên, "maelfa" yn lle siop. Ac er fod llawer gair megis cloc, ffafr, ffals, help, het, lamp, natur, pleser, sicr, siop, &c., wedi cartrefu yn ein llenyddiaeth oreu am ganrifoedd, fe'u gelwir yn fastardd-eiriau mewn aml i feirniadaeth yn yr Eisteddfod, a beir am eu harfer.* Y mae'r gair sicr yn yr englyn cyntaf yn Awdl Eben Fardd ar Ddinystr Jerusalem :

Ah dinystr! dinystr yn donnau-chwalodd

Uchelion ragfuriau,

A thirion byrth yr hen bau,
Caersalem sicr ei seiliau.

Awgryma Gwallter Mechain, y prif ysgolhaig ymhlith y beirniaid, na ddylasai Eben ddefnyddio'r gair "sicr.' Dywed mewn llythyr cyfrinachol at Ddewi Wyn, yn union ar ol Eisteddfod y Trallwm:† "Y mae sier yn Ysgrythyrol, ond a ydyw yn air Cymreig ? O'r ochr arall, fe'n dysgir gan wŷr Rhydychen mai nid ar burdeb geiriau y dibynna purdeb iaith, ond ar gadw yn ddilwgr ei phriod-ddulliau. Nid ydyw geiriau i iaith ond gwisg, yr idioms sydd yn eiddo iddi ydyw ei bywyd; a'r hyn sydd yn hanfodol bwysig ydyw cadw y rheiny yn bur. Y mae'r gallu sydd gan iaith i osod ei hargraff a'i delw ar eiriau benthyg, yn un o'r profion goreu o irder ei thŵf; ac y mae'r Gymraeg, fel pob iaith fyw arall, wedi elwa ar ei hangen, gan droi geiriau i gyflenwi ei rhaid yn eiddo iddo ei hun o ieithoedd ereill, yn ol deddfau sain y gellir eu holrain.

Bu y Rhufeiniaid yn y wlad hon am bedwar can mlynedd, ac enillodd y Gymraeg yn fawr oddiwrthynt. Collodd Galiaid y Cyfandir eu hiaith yn lân yn ystod yr amser y preswyliodd y Rhufeiniaid yn eu mysg, a bu agos i'r Brython golli ei un yntau hefyd. Dywed y Proffeswr Rhys fod yr ysgrifeniadau cerrig yn profi, bron tu hwnt i ddadl, i'r Lladin bara yn un o ieithoedd ein hynafiaid am amser maith ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o'n gwlad. Cadwodd yr Eglwys Foreuol hi rhag diflannu ar unwaith; ond yn y diwedd llithrodd tafodiaith y gwerinwyr Rhufeinig i ryw fath o Ladin Eglwys (Welsh Philology, 1879, page 220). Ond glynodd y Cymry yn gyndyn yn eu hiaith, ac er iddynt

[ocr errors]

*"Ceir yn yr Awdl hon lawer o eiriau anarferedig, megis ffals, pleser, larwm." Beirniadaeth Isaled, Trans. Nat. Eisteddfod, 1884 t.d. 12, 17. + Yr Eisteddfod, Cyf. ii. 349.

"Cyn dechreu beirniadu yr Awdlau cystadleuol, hwyrach y goddefir un sylw beirniadol ar eiriad y testyn, sef "Y Beibl Cymraeg." Gŵyr pob Cymro cyfarwydd â Gramadeg mai yr ansoddair Cymreig ddylasid arfer yn y cysylltiad bwn!" Beirniadaeth Tudno, Trans, Nat. Eisteddfod, 1889, tudal. 1.

golli llawer o'u geiriau trwy ruthr y rhai newydd o'r Lladin, cadwasant eu cystrawen, yr hon sydd yn gwahaniaethu'r Gymraeg oddiwrth yr oll o ganghennau ereill y cyff Ariaidd.

Nid oes llaw-ysgrifau a Chymraeg ynddynt ar gael cynharach na'r wythfed neu'r nawfed ganrif, ac un o'r rhai cyntaf ydyw'r Capella Glosses, y deuwyd o hyd iddo ryw ddwy flynedd ar hugain yn ol yn Llyfrgell Coleg Corff Crist, Caer Grawnt. Y mae ynddo ryw nifer o eiriau Cymraeg ynghanol rhestr o rai Lladin, ac yr ydym yn ddyledus i'r ysgolor Celtaidd gwych, Mr. Whitley Stokes, am ei sylwadau arnynt yn yr Arch. Cambrensis am 1873. Y mae rhai o'r geiriau yn eu cyflwr cyntaf, dim ond cŷff y Lladin a'r terfyniadau, wedi eu bwrw, ereill ac ôl mwy o dreigl arnynt; fel y gwelir oddiwrth yr esiamplau canlynol:catteiraul (catteir cadair), guird (gwyrdd), locell (Îlogell), scribenn ('sgrifen), sich (sych), strotur (strodur), termin (terfyn). Y mae hefyd yn yr Oxford Glosses, sydd tua yr un oed, binfic (benthyg), cannuill (cannwyll), morthol (morthwyl), stebill (ystefyll=ystafelloedd), &c. Y mae hanes rhyfedd i yrfa "benthyg." Gan gychwyn o "beneficium," trŷ i binfic, benffig, benthyg; a chlywir ef ar lafar mewn gwahanol ardaloedd yn bentig, mentig, mencid. (Proff. Powel, Y Cymmrodor, vi. 134). Gwelir felly fod hyd yn oed y gair "benthyg" ei hun yn air benthyg.

Ceir yn Llyvyr Llan Dâf, a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1150, amryw o eiriau o'r Lladin, megis audurdaut, bathoriayth, bendicetic, castell, cyghellaur, discinn, eclwys, escop, finnaun (ffynnon), foss, melldicetic, perued (perfedd), pont, seint, yscumunetic, &c. Treigliad ydyw "perfedd" o per med(ium). Ceir of droiau yn y llyfr heb ei gyfieithu ynghanol brawddeg Gymraeg.

i pant iguairet per medium vallis dir finnaun.

(y pant i waered drwy berfedd y dyffryn i'r ffynnon.)

Tudal. 157.

Ystyr cyffredin "perfedd" ar hyn o bryd ydyw ymysgaroedd, er fod popeth sydd y tu fewn i'r corff yn berfedd. Cedwir yr hen syniad yn y geiriau "perfeddwlad," "perfeddgoed," ac yn yr ymadroddion "perfedd cloc," "perfeddion nos." Ceir yr un meddwl iddo yn "Epistol Episcob Menew at y Cembru." "May cenym ni yn Gymraeg amryw ymadroddion a' diarhebion yn aros fyth mewn arfer a' dynnwyt o berfedd yr scrythyr 'lan, ac o ganol Efengil Christ" (tudal. ix). Hanes yr Esgobaeth ydyw Llyvyr Llan Dâf, wedi ei ysgrifennu yn Lladin, gyda darnau yma ac acw yn Gymraeg yn enwi'r terfynau. Cyhoeddwyd argraffiad newydd o hono Dygwyl Dewi Sant, y llynedd, gan Mr. Gwenogfryn Evans, Rhydychen. Cymerodd ei olygydd boen dirfawr wrth wneud y Mynegai sydd iddo, i chwilio am enwau diweddar y llefydd a enwir ynddo. Dyry hanes rhai cyfnewidiadau pur ddigrif yn nhreigliad geiriau, megis "Minid Ferdun "Minid Ferdun" (mynydd Fyrddin) i

Money Farthing Hill.”

Tua'r un amser yr ysgrifennwyd y casgliad o waith y Cynfeirdd, a elwir Llyfr Du Caerfyrddin. Y mae yn hwn lawer iawn o eiriau o'r Lladin, &c.: benffic, bendith, carchar, coeth, creadur, croes, cuir (cwyr), kymhell, kymun, doeth, dolur, fruin (ffrwyn), fruith, gosper, llythir, llyvir, messur, music, neges, pabuir, pader, paraduis, paraud, pechaud, perthin, pirffeith, pur, segur, traethaud, trindaud, ysprid, &c.

« 前へ次へ »